Mae Eco-Ysgolion yn rhaglen fyd-eang sy'n ymgysylltu â dros 20 miliwn o blant ar draws mwy na 100 o wledydd, gan ei gwneud y rhaglen addysg amgylcheddol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd y rhaglen gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 a'i rhedeg yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Fe'i cynlluniwyd i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i'w hysgol a'r gymuned ehangach, gan adeiladu ar eu sgiliau, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Mae sawl project garddio wedi cael ei gynnal yn yr Ysgol dan arweiniad grŵp Garddio Bwyd Bendigedig Porthmadog.
Mae swyddogion y Pwllgor yn mynd o amgylch y dosbarthiadau i gyd i wneud yn siwr fod pawb yn ail gylchu’n gywir.
Cafwyd binnau newydd er mwyn helpu gyda’r gwaith.
Mae’r criw hefyd yn brysur yn ailgylchu bwyd yn y bin compost arbennig sydd gan yr Ysgol.
Mae’r Eco Bwyllgor yn gyfrifol am y Siop Fwyd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Aldi Porthmadog am rhoi’r bwyd i ni gynnal y Siop.
Mae’r Siop ar agor bob dydd Mercher.
Mae’r Eco Bwyllgor hefyd yn gyfrifol am y siop gyfnewid dillad ysgol. Mae’r siop ar agor i bawb.
Rydym hefyd wedi cael siop cyfnewid siwmperi Nadolig!