Prif nod ein clwb chwaraeon yw darparu amrywiaeth o brofiadau ym myd chwaraeon i ddisgyblion yr Blwyddyn 4, 5 a 6. Hyrwyddwn fanteision iechyd a chymdeithasol o gwblhau gweithgareddau corfforol drwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau mewn awyrgylch hwylus a diogel. Edrychwn ymlaen i dderbyn eich cwmni yn y dyfodol!
Mae’r clwb yn cyfarfod pob Dydd Mercher am 3:20 y.p. tan 4:30 y.p. yn wythnosol. Croeso i bawb!
Rydym yn cymryd rhan mewn amryw o wahanol chwaraeon yn dibynnu ar niferoedd, tywydd a diddordebau'r plant. Yn y gorffennol rydym wedi chwarae pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, rownderi, criced, tenis, dodgeball ac wedi cymryd rhan mewn cylchred ffitrwydd. Os am fwy o wybodaeth cysyllwch a Miss Sioned Edwards.