Arfarniad Ysgol 22-23
Fel ysgol rydym yn adolygu’n gyson ble’r ydym fel ysgol a sut y gallwn wella i sicrhau bod eich plentyn yn cael yr addysg orau yn Ysgol Eifion Wyn.
Ein Cryfderau
Arweinyddiaeth
- Mae disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr wedi ein helpu i greu gweledigaeth glir.
- Rydym o hyd yn adolygu’r hyn rydym yn ei wneud er mwyn gwella.
- Mae pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant o safon uchel sydd yn cael effaith positif ar y ffordd ydym yn addysgu a chefnogi’ch plentyn.
Cwricwlwm
- Mae ein cwricwlwm yn cynnig profiadau ardderchog yn yr awyr agored drwy weithgareddau anturus a thripiau preswyl.
- Mae’r ysgol yn cydweithio ag ysgolion eraill y dalgylch i lunio cwricwlwm cytbwys a phriodol.
- Mae ein cwricwlwm yn ennyn diddordeb y plant
Addysgu a Dysgu
- Rydym yn defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu fel bod ein disgyblion yn gwybod sut i wella ei gwaith. Mae hyn yn helpu’r athrawon gynllunio’r camau nesaf.
- Mae ein dulliau addysgu yn datblygu’r disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol.
- Mae ein strategaethau addysgu a dysgu yn sicrhau cynnydd.
Lles, Tegwch a Chynhwysiant
- Mae ein hysgol wedi cael eu ddylunio i fod yn groesawgar a chartrefol.
- Mae trefniadau cadarn mewn lle i asesu a chefnogi lles.
- Mae’r ysgol yn ceisio cefnogi’r gymuned leol e.e. gwisg ysgol am ddim, banc bwyd.
Arfarniad Ysgol 22-23 (pdf)