Mae’r Cylch Meithrin wedi ei leoli ar safle’r ysgol ac mae cydweithio rhwng yr ysgol a’r Cylch yn golygu trosglwyddiad esmwyth i’r disgyblion. Bydd y dosbarth meithrin a’r cylch yn aml yn cynnal gweithgareddau gyda’i gilydd. Fe all eich plentyn gael mynediad i’r Cylch Meithrin wedi ei penblwydd yn 2 oed. Mae’r Cylch yn cynnig gofal tan 3yp i’r plant. Gall yr ysgol eich cynghori a rhoi gwybodaeth bellach i chi.
Arweinydd dros dro
Arweinydd dros dro
Cymhorthydd ac Arweinydd Gweinyddol
Cymhorthydd
Cymhorthydd
Unigolyn Cyfrifol
Cadeirydd
Ysgrifenyddes
Trysorydd
Aelod o'r Pwyllgor
Aelod o'r Pwyllgor
Aelod o'r Pwyllgor
Bydd y ddarpariaeth yn cynnig sesiynau bore, clwb cinio a sesiwn prynhawn.
Sesiwn bore - 8.50yb - 11.20yb. : £8:00
Clwb cinio – 11.20yb – 1.00yp. : £6.50
Sesiwn pnawn – 1.00yp – 3.00yp : £7.50
Mae’r sesiynau uchod yn rhedeg o Ddydd Llun i Ddydd Gwener dros 39 wythnos y flwyddyn ac eithrio’r Gwyliau Banc, yn unol â gwyliau ysgol y cyngor sir lle lleolir y Cylch.
Hoffwn eich atogffa fod y Cylch yn derbyn taliadau drwy’r cynllun Gofal Plant Di-Dreth sydd yn eich galluogi i gael cyfraniad o 20% gan y llywodraeth tuag at eich costau gofal plant (yn ddarostyngedig i’r meini prawf perthnasol). Gallwch hefyd dderbyn Gofal Plant Di-Dreth yn ogystal a’r Cynllun 30 awr am ddim.
Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth a gwirio os ydych yn deliwng - Gofal Plant Di-Dreth
Ebost: cylchmeithrinporthmadog@outlook.com
Ebost y Pwyllgor: pwyllgorcylchporthmadog@outlook.com
Ffôn: 01766513286
Gwefanau Cymdeithasol:
Facebook: Cylch Meithrin Porthmadog
Instagram: @cylchmeithrin_porthmadog