Cynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru yw’r Siarter Iaith. Maent wedi cyflwyno dau gymeriad sef Seren a Sbarc. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.
Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes - mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd.
Mae gan gymeriadau y Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify.
Ein bwriad yw bod pob plentyn yn dewis siarad Cymraeg graenus ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a thu hwnt. Y gobaith yw bod pob plentyn yn ymfalchïo yn yr iaith, diwylliant a thraddodiadau Cymreig. Mae datblygu gafael ar iaith gref yn mynd i ddylanwadu ar ansawdd cyrhaeddiad addysgol, ac mae pob ymchwil yn dangos bod disgyblion sy’n hyderus ddwyieithog yn cyflawni’n dda. Mae siarad dwy iaith yn agor drysau i’r gymuned , byd gwaith a bywyd cymdeithasol llawer mwy amrywiol. Mae dwy iaith yn golygu dwywaith y dewis.