Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Ers 1922, rydyn ni'n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.
Mae'r Urdd yn cynnig llawer iawn o brofiadau i blant a phobl ifanc o weithgareddau chwaraeon i Eisteddfodau.
Rydym yn cynnig clwb ar ol ysgol bob yn ail Dydd Llun i blant Bl.3 - 6. Byddwn yn creu rhaglen o weithgareddau amrywiol. Os am ddod i'r clwb bydd angen ymuno gyda'r Urdd. Am fwy o wybodaeth am sut i ymuno gyda Urdd:
Blwyddyn Newydd - Beth am ymuno gyda’r Urdd? Ydy eich plentyn awydd ymuno yn yr hwyl gyda nifer o weithgareddau sydd ar gael yn ystod y flwyddyn. Byddwn yn dechrau cynnal y Clwb ar ôl ysgol yn fuan.
Mwy o wybodaeth i ddilyn.
Unwaith fyddi di wedi creu dy gyfri o fewn Y Porth, gelli ymaelodi dy hun gyda’r Urdd (os yn 16+ oed), neu ychwanegu plentyn / plant dy deulu i’w ymaelodi gyda’r Urdd.
Ar ôl ychwanegu a thalu byddi di / dy blant yn aelodau o’r Urdd ar gyfer eleni, a cei e-bost i gadarnhau hynny. Gelli ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio manylion.
Cost o £12.50 y flwyddyn.
Aelodaeth yr Urdd