Blaenoriaethau Gwella 25-26
Byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd gwella canlynol yn ystod y flwyddyn academaidd 2025-2026 er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r gorau y gallwn i’n disgyblion.
Blaenoriaeth 1: Adfer a Chryfhau Darpariaeth ADY a Gweithdrefnau Cynhwysiad
- Ailsefydlu systemau ADY cadarn a chywir, gyda chofnodion a CDU safonol.
- Cryfhau hyder ac arbenigedd staff wrth adnabod a chefnogi dysgwyr ag ADY.
- Gweithredu strategaethau ymddygiad ysgol gyfan sy’n seiliedig ar egwyddorion adferol a thrawma-ymwybodol.
- Datblygu system olrhain fewnol effeithiol i fonitro cynnydd dysgwyr.
- Cynnwys rhieni a disgyblion yn rheolaidd yn y broses adolygu.
- Defnyddio’r Map Darpariaeth ADY yn gyson i dargedu cymorth a sicrhau cynhwysiant llawn.
Blaenoriaeth 2: Datblygu Arweinyddiaeth – Ail-sefydlu strwythur arweinyddiaeth yr ysgol
- Cryfhau rôl y Pennaeth mewn Gofal a sicrhau dirprwyo effeithiol.
- Ail-strwythuro’r UDRh ac arweinwyr cyfnodau gyda chyfrifoldebau clir.
- Datblygu cydlynwyr MDaPh a sicrhau rhannu arferion da drwy rwydweithio a hyfforddiant.
- Sicrhau bod gan ddisgyblion rôl weithredol mewn arweinyddiaeth trwy grwpiau a chriwiau disgyblion.
- Datblygu rôl y llywodraethwyr fel ffrindiau beirniadol, gyda gwybodaeth gyfredol am waith yr ysgol.
Blaenoriaeth 3: Sicrhau Cyd-ddealltwriaeth o Gynnydd ac Asesu gan gynnwys pob staff
- Creu system asesu fewnol gyson, wedi’i seilio ar egwyddorion cynnydd.
- Sicrhau defnydd effeithiol o’r Traciwr i fonitro cynnydd a thargedu ymyraethau.
- Cysylltu prosesau asesu â chynllunio cwricwlwm perthnasol sy’n datblygu’n barhaus.
- Sicrhau bod pob athro yn deall sut olwg sydd ar gynnydd a sut i gynllunio ar ei gyfer.
- Defnyddio Seesaw a dulliau asesu parhaus i gasglu tystiolaeth a chynnwys rhieni.
- Adolygu’r weledigaeth a’r cynnig cwricwlaidd yn barhaus i sicrhau datblygiad sgiliau trawsgwricwlaidd.
Blaenoriaeth 4: Datblygu Cydweithio Ystyrlon gyda’r Clwstwr i Wella Safonau a Phrofiadau Dysgwyr
- Sefydlu gweledigaeth a strwythur clir ar gyfer cydweithio clwstwr.
- Trefnu cyfarfodydd rheolaidd i rannu arferion da ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol.
- Creu grwpiau cydweithio ar draws yr ysgolion i gynnwys pob aelod o staff.
- Rhannu a datblygu arferion addysgu effeithiol drwy deithiau dysgu a chyfarfodydd thema-benodol.
- Cyd-gynllunio digwyddiadau a phrofiadau sy’n hyrwyddo’r Pedwar Diben ac yn rhoi lle canolog i leisiau disgyblion.
- Sicrhau bod cydweithio’n arwain at welliannau mesuradwy mewn safonau a phrofiadau dysgwyr.